|
Rhif y Ddeiseb: P-06-1472 Teitl y ddeiseb: Rhaid diogelu ein bywyd gwyllt ... dylid gwahardd glaswellt plastig yng Nghymru! Geiriad y ddeiseb: Gwylio aderyn du neu fronfraith yn chwilio am fwydod
a thrychfilod ar laswellt artiffisial yw un o’r golygfeydd
tristaf ym myd natur! Wrth i’n cefn gwlad gael ei drawsnewid fwyfwy
ar gyfer ffermio dwys, mae ein bywyd gwyllt yng Nghymru yn dod yn
fwyfwy dibynnol ar ein gerddi i gael bwyd. |
Mae glaswellt neu dyweirch plastig/artiffisial yn cynnwys ffeibrau sydd wedi’u gwneud gan ddyn i edrych fel glaswellt naturiol.
Canfu ymchwil gan Aviva, cwmni yswiriant yn y DU, fod un rhan o bump (21 y cant) o berchnogion tai yn y DU eisoes wedi rhoi glaswellt artiffisial yn lle eu lawnt naturiol, neu’n bwriadu gwneud hynny, ac nad yw llawer yn ymwybodol bod mwy o berygl o lifogydd yn gysylltiedig â’r lawntiau hynny. Un o’r rhesymau pam y mae perchnogion tai yn dewis glaswellt plastig yw ei bod yn haws ei gynnal a’i gadw, nad oes angen ei dorri na’i ddyfrio, a’i fod yn gadarn.
Fodd bynnag, nododd Prifysgol Plymouth fod y problemau amgylcheddol sy’n deillio o ddewis lawnt artiffisial yn llawer mwy na’r manteision posibl hyn, a thrafododd sut mae glaswellt plastig yn niweidiol i’r amgylchedd, gan gynnwys:
§ nad yw’n darparu unrhyw fwyd ar gyfer creaduriaid byw;
§ ei fod yn cyfyngu ar fynediad i’r pridd oddi tano ar gyfer pryfed sy’n tyllu ac i’r ddaear uwchben ar gyfer creaduriaid sy’n byw yn y pridd fel mwydod;
§ ei fod yn cyfyngu ar fynediad i ddeunyddiau naturiol;
§ ei fod yn mynd yn llawer mwy poeth na glaswellt naturiol yn yr un tywydd;
§ ei fod yn amsugno llawer mwy o belydriad na glaswellt byw;
§ ei fod yn cymryd lle planhigion byw a allai gael gwared â charbon deuocsid;
§ ei fod yn creu ôl troed carbon mawr yn ystod taith sy’n cynnwys gweithgynhyrchu, cludo a gosod;
§ ei fod yn fwy tebygol o achosi i ddŵr redeg oddi ar yr arwyneb ar ôl glaw sylweddol a all gyfrannu at lifogydd.
Amlygodd Adroddiad Sefyllfa Natur 2023 fod 18 y cant o 3,897 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu, a bod 42 y cant o rywogaethau planhigion Cymru i’w cael mewn llai o fannau nag o’r blaen.
Mae’r papur briffio hwn gan Ymchwil y Senedd yn edrych ar fanteision bioamrywiaeth a’r pwysau arni. Mae hefyd yn edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud i ddiogelu bioamrywiaeth a pha gamau ychwanegol y gelwir amdanynt.
Mae glaswellt artiffisial yn cael ei wneud o bolyethylen, plastig cyffredin, a gall darnau o’r deunydd hwn wneud eu ffordd i mewn i’r pridd, a thu hwnt, ar ffurf llygredd microblastig.
Mae microblastigau yn ronynnau o blastig nad ydynt ond ychydig o filimetrau yn fwy o ran maint, llai na 5mm mewn unrhyw ddimensiwn.
Yn 2017, dangosodd adroddiad gan OSPAR, dogfen asesu deunyddiau microblastig o'r tir a roddir i'r amgylchedd morol, mai tyweirch artiffisial a deunydd mewnlenwi yw achos rhai o’r allyriadau uchaf o ficroblastigau mewn gwledydd OSPAR.

Ffigur 1. Amcangyfrif o allyriadau o ficroblastigau mewn dalgylchoedd OSPAR (tunnell/blwyddyn) [Ffynhonnell: OSPAR]
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau i geisio atal llygredd plastig, gan gynnwys:
§ codi tâl am fagiau siopa untro;
§ gwahardd microbelenni mewn cynhyrchion gofal personol a gaiff eu golchi i ffwrdd; a
§ gwahardd cynhyrchion plastig untro sy’n cael eu taflu i’r sbwriel fwyaf.
Ym mis Mehefin 2023, dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, wrth y Senedd ei bod am archwilio a allai’r Ddeddf cynhyrchion plastig untro gael ei defnyddio i wahardd glaswellt artiffisial, ond newidiodd ei meddwl ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.
Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, dywed Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, fod gan Lywodraeth Cymru “sawl strategaeth bresennol... ymrwymedig sydd ag agwedd benodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â’r mater”, gan fod microblastigau yn tarddu o wahanol ffynonellau.
Mae’n tynnu sylw at Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru Mwy nag ailgylchu, gan esbonio mai economi gylchol yw lle mae llygredd plastig, ynghyd â mathau eraill o wastraff, yn cael ei osgoi a lle mae adnoddau’n cael eu defnyddio cyhyd â phosibl. Dywed ei bod yn “hanfodol ystyried cylch oes cyfan cynhyrchion fel glaswellt artiffisial”. Yn 2023, roedd erthygl gan Ymchwil y Senedd yn edrych ar ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â llygredd plastig drwy Mwy nag ailgylchu, ac yn 2024 mae’r erthygl hon yn edrych ar gynnydd yn erbyn y targedau a nodir yn y strategaeth.
Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod wedi gofyn i Platfform yr Amgylchedd Cymrudrefnu digwyddiad microblastigau i ddeall pa waith ymchwil sy’n cael ei wneud. Mae digwyddiad wedi’i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2025.
Mae hefyd yn tynnu sylw at rôl Polisi Cynllunio Cymru wrth “sicrhau canlyniadau bioamrywiaeth cadarnhaol pan gynigir datblygiadau newydd ac i hyrwyddo ymddygiadau a chanlyniadau mwy cynaliadwy lle bynnag y bo modd”. Dywed y bydd camau pellach i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth sydd ar y gweill “i gynnwys fframwaith i osod targedau adfer natur statudol manwl”, a drafodir yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd ymchwiliad i leihau gwastraff plastig, ac roedd yn edrych ar ffynonellau ac effaith llygredd microblastig.
Ym mis Chwefror 2022, trafododd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y cynnydd yn y goblygiadau ar gyfer llifogydd sy’n deillio o laswellt plastig. Cyfeiriwyd at bwysau cynyddol ar system garthffosiaeth Cymru.
Trafodwyd y defnydd o laswellt plastig mewn mannau cyhoeddus yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2023, yn dilyn cwestiwn gan Sioned Williams MS ar ‘Gwella’r amgylchfydtrefol’.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |